top of page

2024 Hysbysiad Archwilio

Hysbysiad archwilio

 

Hysbysiad o benodi'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy

 

Y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2024

 

1. Dyddiad cyhoeddi ____________12 Mehefin 2024__________________________

 

2. Bob blwyddyn mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, caiff unrhyw berson â buddiant gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy'n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol wrth wneud cais i:

 

Gwefan y Cyngor: www.llansanffraid.co.uk/cysylltwch

neu davidcourt.gccc@gmx.com

ac i'w gweld yng Nghaffi Llan, Glan Conwy

 

_______________________________________________________ _______________________________________________________

rhwng oriau ___13.30_______ a ___15.30_______ o ddydd Llun i ddydd Gwener

 

yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2024

 

ac yn gorffen ar 26 Gorffennaf 2024

 

3. O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:

• yr hawl i holi'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.

• yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig i'r cyngor hefyd.

 

Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymunedol, Archwilio Cymru, 1 Prifddinas-Chwarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.cymru.

 

4. Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

​

Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

 

Y sefyllfa sylfaenol

 

Yn ôl y gyfraith, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb yr hawl i archwilio cyfrifon y cyngor. Os oes gennych hawl ac wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyngor lleol, yna mae gennych chi (neu'ch cynrychiolydd) hefyd yr hawl i ofyn cwestiynau i'r Archwilydd Cyffredinol amdanynt neu herio eitem o gyfrif sydd wedi'i chynnwys ynddynt.

 

Yr hawl i archwilio'r cyfrifon

 

Pan fydd corff llywodraeth leol wedi cwblhau ei gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i bobl edrych arnynt. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o'ch bwriadau, yna mae gennych 20 diwrnod gwaith i edrych trwy'r cyfrifon a'r dogfennau ategol. Byddwch yn gallu gwneud copïau o'r cyfrifon a'r rhan fwyaf o'r dogfennau perthnasol o'r corff. Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ffi copïo.

 

Yr hawl i ofyn cwestiynau i'r archwilydd am y cyfrifon

 

Dim ond cwestiynau am y cyfrifon y gallwch ofyn i'r Archwilydd Cyffredinol. Nid oes rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau am bolisïau, cyllid, gweithdrefnau neu unrhyw beth arall nad yw'n gysylltiedig â'r cyfrifon. Rhaid i'ch cwestiwn fod am y cyfrifon sy'n destun archwiliad. Nid oes rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ddweud a yw'n credu bod rhywbeth y cyngor wedi'i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu'n rhesymol.

 

Yr hawl i wrthwynebu'r cyfrifon

 

Os ydych chi'n credu bod y corff wedi gwario arian na ddylai ei gael, neu fod rhywun wedi achosi colled i'r corff yn fwriadol neu drwy ymddwyn yn anghyfrifol, gallwch wrthwynebu'r Archwilydd Cyffredinol drwy anfon 'hysbysiad o wrthwynebiad' ffurfiol, y mae' n rhaid iddo fod yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod. Gallwch ofyn i'r Archwilydd Cyffredinol wneud cais i'r llysoedd am ddatganiad bod eitemau o'r fath yn anghyfreithlon. Rhaid i chi ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol pam eich bod yn gwrthwynebu. Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ddod i benderfyniad ar eich gwrthwynebiad. Os nad ydych yn hapus gyda'r penderfyniad hwnnw, gallwch apelio i'r llysoedd. Rhaid i chi hefyd anfon copi o'ch hysbysiad at y cyngor ei hun.

 

Gallwch hefyd wrthwynebu os ydych yn credu bod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai'r Archwilydd Cyffredinol ei drafod gyda'r cyngor neu ddweud wrth y cyhoedd amdano mewn 'adroddiad budd y cyhoedd'. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau ysgrifenedig i'r Archwilydd Cyffredinol yn y cyfeiriad isod. Yn yr achos hwn, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau gweithredu. Fel arfer, bydd yr Archwilydd Cyffredinol, ond nid oes rhaid iddo, roi rhesymau dros ei benderfyniad ac ni allwch apelio i'r llysoedd. Ni chewch ddefnyddio'r 'hawl i wrthwynebu' hwn i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y corff. 

​

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn neu hawliad personol, dylech fynd â'r cwynion hyn i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol, neu eich cyfreithiwr. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os ydych yn credu bod Aelod o'r corff wedi torri'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Gellir cysylltu â'r Ombwdsmon yn: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ, (ffôn: 0300 790 0203).

 

Beth arall allwch chi ei wneud

 

Yn hytrach na gwrthwynebu, gallwch roi gwybodaeth i'r Archwilydd Cyffredinol sy'n berthnasol i'w cyfrifoldebau. Er enghraifft, gallwch ddweud wrth yr Archwilydd Cyffredinol os credwch fod rhywbeth o'i le ar y cyfrifon neu am wastraff ac aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae'r cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser neu weithdrefnau penodol. Nid oes rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad manwl i chi o ganlyniad ei archwiliad.

 

Gair olaf

 

Rhaid i gyrff llywodraeth leol, ac felly trethdalwyr lleol, dalu costau delio â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu a ddylid mynd â'ch gwrthwynebiad ymhellach, mae un o gyfres o ffactorau y mae'n rhaid iddo eu hystyried yn cynnwys y costau a fydd yn gysylltiedig. Bydd ond yn parhau gyda'r gwrthwynebiad os yw er budd y cyhoedd i wneud hynny. Os byddwch yn apelio i'r llysoedd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y camau gweithredu eich hun.

 

Os hoffech gysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol, ysgrifennwch at: Archwiliadau Cyngor Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Chwarter Prifddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ. 

bottom of page